Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and
Education Committee
Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg
|
Priorities for the Children, Young People and Education
Committee
CYPE 79
Ymateb
gan : Dyfodol i’r Iaith
Response from : Dyfodol i’r Iaith
Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad amhleidiol sy’n gweithredu er lles yr iaith Gymraeg. Nod y mudiad yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg ym mhob maes polisi. Bydd yn gweithredu er budd Cymru a’i phobl, gan ennill cefnogaeth a pharch i’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn fater byw ar yr agenda gwleidyddol.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r cyfle i gyflwyno sylwadau ar flaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Sylwadau Cyffredinol
Credwn mai cyflymu twf ysgolion Cymraeg yw’r cam pwysicaf a mwyaf effeithiol tuag at wireddu targed uchelgeisiol Strategaeth y Gymraeg o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd angen cynllunio gofalus ac ymarferol os am gyrraedd hyn, a byddwn yn argymell targed realistig o gael 50% o blant mewn addysg Gymraeg erbyn 2030 fel man cychwyn.
Byddwn hefyd yn nodi pwysigrwydd yr Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg , ac yn pwyso ar i’r Llywodraeth ymweld ag argymhellion yr adroddiad ar fyrder.
Blaenoriaethau
Mae dogfen maniffesto Dyfodol i’r Iaith yn nodi ein holl flaenoriaethau i sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r Gymraeg ar draws holl feysydd polisi’r Llywodraeth. Credwn ei bod yn allweddol bwysig ystyried y Gymraeg ar draws yr ystod ehangaf o bolisi a chynllunio, a byddwn yn pwyso’r neges hon fel rhan o’n hymateb i ymgynghoriad Strategaeth y Gymraeg.
Mewn perthynas â blaenoriaethau’r Pwyllgor hwn, byddwn yn crynhoi ei gofynion fel â ganlyn:
· Gosod targed o 50% o ddisgyblion 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, bydd rhaid cynyddu twf ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â sicrhau sgiliau digonol ac addas i athrawon a staff ar draws yr holl ddarpariaeth addysg, gan gynnwys anghenion a dysgu ychwanegol. Bydd angen sicrhau’n ogystal darpariaeth ddigonol cyfrwng Cymraeg ar gyfer Dechrau’n Deg
· Symud ar fyrder tuag at ddysgu’r Gymraeg fel un iaith, yn unol ag awgrym ymchwiliad Donaldson; bydd hyn yn cryfhau dilyniant iaith rhwng pob sector addysg
· Dileu gorfod talu am gludiant i addysg 16+, gan sicrhau fod trefniadau cludiant yn hyrwyddo addysg Gymraeg
· Rhoi pwyslais ar ddysgu pynciau trwy’r Gymraeg, gan gynllunio’r gweithlu yn ofalus er mwyn diwallu’r anghenion
· Sefydlu system o dracio cyn-ddisgyblion ysgolion Cymraeg i annog defnydd o’r Gymraeg
· Pwyslais ar gyfathrebu bob dydd i ddisgyblion ysgolion Saesneg ac ar ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng
· Cyflwyno rhaglen drylwyr o ymwybyddiaeth iaith yn y cwricwlwm
· Hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni. Byddai hyn yn cynnwys cyd-weithio’n agos gyda Chymraeg i Oedolion, y Mudiad Meithrin, yn ogystal â pharatoi gwybodaeth ar addysg Gymraeg a hyrwyddo manteision dwyieithrwydd
· Cefnogaeth ariannol i weithgareddau allgyrsiol Cymraeg
· Pwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyrsiau addysg bellach sy’n cynnwys ymwneud â chwsmeriaid
· Creu cymhelliant ariannol i fyfyrwyr Addysg Uwch astudio yng Nghymru
Meysydd Polisi Perthnasol
Byddwn yn pwyso am fanteisio i’r eithaf ar y gwerth ychwanegol a gynigir yn sgil y safonau iaith a Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn hefyd yn gofyn ar i’r system gynllunio hyrwyddo ysgolion Cymraeg yng nghyd-destun datblygiadau newydd.